cyfrol i’w thrysori

Nos Fawrth, Mehefin 5, 7yh

Neuadd Goffa Penygroes

Bydd Geraint Thomas yn siarad (gyda sleidiau) am ei lyfr ‘Cyfrinachau – Llynnoedd Eryri’.

Trefnwyd gan:

Adolygiad:

Dyma lyfr i’w fodio, a hynny dro ar ôl tro. Ceir sawl ffefryn – Llyn Geirionydd a haen denau o rew ar ei wyneb a chochni’r rhedyn a’r coed ar un ochr a chysgod tywyll yr ochr draw, Llyn Dinas a’i gytiau cychod a niwl ysgafn yn troi’r lliwiau’n feddal, neu Lyn Padarn a chymylau duon, bygythiol uwch ei ben. Mae i bob un ei hud ei hun. Mae’r lluniau yn hynod ddeniadol ac wedi eu hargraffu’n hyfryd, er rhaid cyfaddef nad wyf yn deall awydd argraffwyr i osod llun ar draws dwy dudalen – mae’n difetha mwy ar y llun nag y mae’n ei ychwanegu drwy faintioli.

Ond nid llyfr lluniau yn unig yw’r gyfrol. Ceir pwt o ysgrif am bob llyn – tua chant pedwar deg ohonynt. Mae’r ysgrifau ar y cyfan yn dilyn patrwm: disgrifiad o’r lleoliad ynghyd â rhai manylion daearegol, rhywfaint o eglurhad ar yr enw, stori neu chwedl sy’n gysylltiedig â’r llyn, a rhai manylion am ymyrraeth ddynol – diwydiannol fel arfer. Mae’r arddull yn gryno, yn ymylu ar fod yn foel weithiau, ond yn un sy’n trosglwyddo llawer iawn o wybodaeth amrywiol mewn ychydig frawddegau – camp y gallai ambell gyfrol debyg ei dynwared efallai. Mae’n gyfrol ddwyieithog, ond, rhaid cyfaddef, mae’r darllenydd Cymraeg yn cael gwell bargen gan fod mwy o liw ac amrywiaeth yn yr ysgrifau Cymraeg.

Rhaid edmygu’r awdur nid yn unig am ei ddygnwch yn paratoi cyfrol fel hon, gan ymweld â nifer o ardaloedd hynod anghysbell, ond am ddal ati dros ddwy flynedd yn hel deunydd. Ond efallai mai’r gamp fwyaf, fel y mae’n cyfaddef yn y rhagair, oedd hedfan uwchben rhai o’r llynnoedd mewn awyren feicroleit, (‘mewn basged siopa ar foto beic’) er mwyn cael lluniau gwahanol o’r llynnoedd, ond camp lawn pleser oedd hi, mae’n amlwg. Dyma gyfrol sydd yn rhoi blas ar grwydro tir garw anghysbell i’r darllenydd wrth iddo eistedd mewn cadair freichiau o flaen y tân, ac mae hynny’n gryn gamp. Roedd gweld ambell lun a darllen ysgrif yn codi awydd arnaf i wisgo côt gynnes, clymu’r esgidiau cerdded a chrwydro’r mynyddoedd unwaith eto. Nid cyfrol bwrdd coffi yw hon – mae’n llawer iawn rhy egnïol i hynny. Dyma gyfrol i’w thrysori.

John Roberts

Meddai Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Caerwyn Roberts, fod yma “… gorff o waith sydd yn portreadu Eryri ar ei gorau, gan gyfuno’r hen a’r newydd mewn llyfr sy’n gampwaith cyfoethog o ddelwedd a gair yn Gymraeg a Saesneg.”

Meddai Gerallt Pennant, “Golau chwim, anwadal ydy’r golau ar lynnoedd Eryri. Golau’r wawr ac awr fachlud ydy golau Geraint Thomas, ac mae o wedi ffrwyno’r golau hwnnw. Ffrwyth ei weledigaeth a’i ddyfalbarhad ydy’r gyfrol hon.”

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Tagiwyd , , , , , | Rhowch sylw

gweithgareddau’r urdd

Mae Dyffryn Nantlle 20/20 wedi trefnu wythnos brysur i gyd-fynd gydag Eisteddfod yr Urdd yn Glynllifon.

Mae’r digwyddiadau yn cynnwys:

  • noson gyda Geraint Thomas, awdur Llynnoedd yr Eryri
  • lawnsiad Cynghrair Cymunedau Cymru, a llyfr Dr Carl Clowes
  • taith o gwmpas llefydd caneuon Bryn Fôn
  • gig Bryn Fn yn Ysgol Dyffryn Nantlle
  • noson Bwyd Lleol

Gweler isod ar gyfer y manylion llawn

(Dyffryn Nantlle 20/20 is organising a series of Welsh language activities to run alongside the visit of the Urdd Eisteddfod to Glynllifon).

Mae fersiwn argraffu ar gael fan hyn: taflen yr urdd

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Tagiwyd , , , , , , , | Rhowch sylw

syniadau ar gyfer prosiectau

Ideas for project themes:

  • Culture
  • Skills
  • Tourism
  • Outdoor pursuits
  • Local produce
  • Digital centre
  • Energy
Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

datganiad – cyfarfod 3

Pa fath o Ddyffryn hoffech chi fyw ynddo – a sut allwn ei greu? Dyna’r
her mae Dyffryn Nantlle 20:20 yn ei osod i bobl yr ardal. Bydd croeso
i bawb yn y cyfarfod nesaf, sy’n cael ei gynnal nos Lun nesaf, Mai
23ain, am 7 o’r gloch yn Neuadd Goffa Penygroes. Hwn bydd y trydydd
mewn cyfres o gyfarfodydd i helpu’r ardal edrych ar gynlluniau ar
gyfer y dyfodol.

Yn y ddau gyfarfod cyntaf ym mis Ebrill, trafodwyd hanes y Dyffryn, a
syniadau newydd, gan gynnwys ynni, hybu sgiliau, twristiaeth,
gweithgareddau awyr agored, cynnyrch lleol, a sefydlu canolfan
digidol.
Bydd y cyfarfod ar nos Lun yn trafod datblygu’r syniadau, a ffurfio’r
grwpiau i symud ymlaen gyda’r gwaith.

“Rydym wedi bod yn hapus iawn gyda’r ymateb yn y cyfarfodydd ym mis
Ebrill. Yn y cyfarfod nesaf, bydd Sara Ashton, sylfaenydd Tref Werdd
Blaenau Ffestiniog, yn siarad, i’n hysbrydoli a dangos beth sy’n
bosib” – meddai Ben Gregory, Cadeirydd Neuadd Goffa Penygroes ac un o
drefnwyr Dyffryn Nantlle 20:20.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’r prosiectau’n datblygu.
Mae’n gyffrous gweld  y gymuned leol yn dod at ei gilydd i greu
gweledigaeth, ac mae llawer o syniadau byddai’n cryfhau beth sydd gan
y dyffryn i gynnig.”   meddai Robin Farrar, un arall o drefnwyr
Dyffryn Nantlle 20:20.

Mae casgliad o grwpiau cymunedol wedi dod at ei gilydd i drefnu’r
cyfarfodydd er mwyn creu cynllun ar gyfer y dyffryn cyfan, bydd yn
cwmpasu’r prosiectau maent yn gweithio arnynt rwan, er enghraifft, mae

Neuadd Goffa Penygroes wrthi’n cynllunio gosod paneli solar ar y to
Cymdeithas Tai Eryri wrthi’n gwella effeithlonrwydd ynni eu stoc tai,
ac yn gosod paneli solar ar do eu swyddfa ym Mhenygroes
Prosiect Bwyd B3 wrthi’n hyrwyddo bwyd lleol, iach a chynaladwy yn y dyffryn
Trigonos yn hyrwyddo twristiaeth gynaladwy ac wedi gosod bwyler
briwsion coed yn eu canolfan cynadledda sydd hefyd yn dyddyn organig
Partneriaeth Talysarn a Nantlle yn ceisio helpu pobl i arbed ynni
Antur Nantlle wrthi’n cynllunio prosiect ynni dŵr cymunedol.

Mae Gwynedd Gynaladwy a Phrifysgol Bangor yn cefnogi’r cyfarfodydd hyn
ar ran Goleufa Cymru, sydd yn ariannu’r cynllun. Y gobaith yw y bydd
yn troi gwybodaeth am ôl-troed carbon a chynllunio cymunedol yn
rhywbeth o werth i bobl y Dyffryn.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â ni:

Ben Gregory 01286 882134 ben@taieryri.co.uk
Robin Farrar 07717 102923 robin@dyfodol.org

dyffrynnantlle2020.wordpress.com

///

What kind of place do you want Dyffryn Nantlle to be – and how can we
get there? That’s the challenge Dyffryn Nantlle 20:20 issues to local
residents. All are welcome to the next meeting, to be held next
Monday, May 23rd, at 7 pm at Neuadd Goffa Penygroes. This will be the
third in a series of meetings to help the area look at plans for the
future.

The first two meetings in April included a discussion on the valley’s
history, and many new ideas including energy projects, skill-share,
tourism, outdoor pursuits, local produce nad establishing a digital
drop-in centre.
Monday’s meeting will discuss how to develop the ideas, and form
groups to move the work forward.

“We’ve been very happy with the response in the April meetings. In the
next meeting, Sara Ashton, founder of the Green Town initiative in
Blaenau Ffestiniog, will give a short talk to inspire us and show
what’s possible” – says Ben Gregory, Neuadd Goffa Penygroes’ chairman,
and one of the Dyffryn Nantlle 20:20 organisers.

“I’m looking forward to see how the projects develop. It’s exciting to
see a community coming together to create a vision, and there are many
ideas that will enhance what the valley has to offer.” – says Robin
Farrar, another member of the Dyffryn Nantlle 20:20 team.

Various community groups have got together to organise the meetings in
order to create a plan for the whole valley, that will encompass
projects they are currently working on, for example
Penygroes’ village hall committee plan to install photo-voltaic panels
on the roof
Cymdeithas Tai Eryri are improving the energy efficiency of their
housing stock, and installing solar panels on their Penygroes
headquarters
B3 Food Project is promoting local, healthy and sustainable food in the area
Trigonos are promoting sustainable tourism and have installed a
woodchip boiler in their conference centre that doubles up as an
organic smallholding
Talysarn a Nantlle Partnership are trying to help people save energy
Antur Nantlle are planning a community hydroelectric project.

Sustainable Gwynedd Gynaladwy and Bangor University are supporting the
meetings on behalf of Beacons for Wales, the project funders. The aim
is to put expertise about carbon footprinting and community planning
to good use for the people of the Dyffryn Nantlle area.

For further details, contact us:

Ben Gregory 01286 882134 ben@taieryri.co.uk
Robin Farrar 07717 102923 robin@dyfodol.org

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Dyffryn Delfrydol – Ideal Valley

Syniadau o’r ail gyfarfod – Ideas from the second meeting

This slideshow requires JavaScript.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw

Adnoddau Dyffryn Nantlle

O’r cyfarfod cyntaf, dyma map sy’n dangos y pethau mae pobl yn eu gwerthfawrogi yn y dyffryn:

Here’s a map showing the resources people use in Dyffryn Nantlle:


View Larger Map

Ebostiwch fi (robin@dyfodol.org) os ydach chi isio cywiro neu gyfrannu rhywbeth i’r map.

Email me (robin@dyfodol.org) if you wish to correct or contribute anything to the map.

Cyhoeddwyd yn Uncategorized | 2 Sylw

Hanes y cyfarfod cyntaf

Mae project Dyffryn Nantlle 20:20 wedi dechrau go-iawn rŵan! Diolch yn fawr i bawb ddaeth i’r cyfarfod, dros 40 ohonoch, o 7 i 77 ac o bob rhan o’r dyffryn! Diolch hefyd i John Dilwyn Williams am grynhoi hanes y Dyffryn mewn 10 munud ar ddechrau’r cyfarfod! Bydd cofnodion manylach yn ymddangos yn y dyddiau nesaf, ond dyma amlinelliad o’r cyfarfod:

  • Edrychon ni ar hanes y dyffryn, a chasglu atgofion o’r 100 mlynedd ddiwethaf
  • Trafod beth sy’n gwneud Dyffryn Nantlle mor arbennig
  • Dechreuon ni greu rhestr o’r busnesau, sefydliadau ac adnoddau eraill sydd yn y Dyffryn – bydd map yma’n fuan!

The Dyffryn Nantlle 20:20 got off to a good start last night, with over 40 people aged 7-77 from all over the area in the first meeting. Thanks to everyone who turned out, and also to John Dilwyn Williams for summarizing the areas history in a mere 10 minutes! Watch this space for more details of what was said, but here’s a quick outline of the meeting:

  • We looked at the valley’s history, and collected memories from the last 100 years
  • We discussed what makes Dyffryn Nantlle so special
  • We started creating a list of the businesses, organisations and other resources in the valley – there’ll be a map here soon!
Cyhoeddwyd yn Uncategorized | Rhowch sylw