cyfrol i’w thrysori

Nos Fawrth, Mehefin 5, 7yh

Neuadd Goffa Penygroes

Bydd Geraint Thomas yn siarad (gyda sleidiau) am ei lyfr ‘Cyfrinachau – Llynnoedd Eryri’.

Trefnwyd gan:

Adolygiad:

Dyma lyfr i’w fodio, a hynny dro ar ôl tro. Ceir sawl ffefryn – Llyn Geirionydd a haen denau o rew ar ei wyneb a chochni’r rhedyn a’r coed ar un ochr a chysgod tywyll yr ochr draw, Llyn Dinas a’i gytiau cychod a niwl ysgafn yn troi’r lliwiau’n feddal, neu Lyn Padarn a chymylau duon, bygythiol uwch ei ben. Mae i bob un ei hud ei hun. Mae’r lluniau yn hynod ddeniadol ac wedi eu hargraffu’n hyfryd, er rhaid cyfaddef nad wyf yn deall awydd argraffwyr i osod llun ar draws dwy dudalen – mae’n difetha mwy ar y llun nag y mae’n ei ychwanegu drwy faintioli.

Ond nid llyfr lluniau yn unig yw’r gyfrol. Ceir pwt o ysgrif am bob llyn – tua chant pedwar deg ohonynt. Mae’r ysgrifau ar y cyfan yn dilyn patrwm: disgrifiad o’r lleoliad ynghyd â rhai manylion daearegol, rhywfaint o eglurhad ar yr enw, stori neu chwedl sy’n gysylltiedig â’r llyn, a rhai manylion am ymyrraeth ddynol – diwydiannol fel arfer. Mae’r arddull yn gryno, yn ymylu ar fod yn foel weithiau, ond yn un sy’n trosglwyddo llawer iawn o wybodaeth amrywiol mewn ychydig frawddegau – camp y gallai ambell gyfrol debyg ei dynwared efallai. Mae’n gyfrol ddwyieithog, ond, rhaid cyfaddef, mae’r darllenydd Cymraeg yn cael gwell bargen gan fod mwy o liw ac amrywiaeth yn yr ysgrifau Cymraeg.

Rhaid edmygu’r awdur nid yn unig am ei ddygnwch yn paratoi cyfrol fel hon, gan ymweld â nifer o ardaloedd hynod anghysbell, ond am ddal ati dros ddwy flynedd yn hel deunydd. Ond efallai mai’r gamp fwyaf, fel y mae’n cyfaddef yn y rhagair, oedd hedfan uwchben rhai o’r llynnoedd mewn awyren feicroleit, (‘mewn basged siopa ar foto beic’) er mwyn cael lluniau gwahanol o’r llynnoedd, ond camp lawn pleser oedd hi, mae’n amlwg. Dyma gyfrol sydd yn rhoi blas ar grwydro tir garw anghysbell i’r darllenydd wrth iddo eistedd mewn cadair freichiau o flaen y tân, ac mae hynny’n gryn gamp. Roedd gweld ambell lun a darllen ysgrif yn codi awydd arnaf i wisgo côt gynnes, clymu’r esgidiau cerdded a chrwydro’r mynyddoedd unwaith eto. Nid cyfrol bwrdd coffi yw hon – mae’n llawer iawn rhy egnïol i hynny. Dyma gyfrol i’w thrysori.

John Roberts

Meddai Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Caerwyn Roberts, fod yma “… gorff o waith sydd yn portreadu Eryri ar ei gorau, gan gyfuno’r hen a’r newydd mewn llyfr sy’n gampwaith cyfoethog o ddelwedd a gair yn Gymraeg a Saesneg.”

Meddai Gerallt Pennant, “Golau chwim, anwadal ydy’r golau ar lynnoedd Eryri. Golau’r wawr ac awr fachlud ydy golau Geraint Thomas, ac mae o wedi ffrwyno’r golau hwnnw. Ffrwyth ei weledigaeth a’i ddyfalbarhad ydy’r gyfrol hon.”

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s