Blas ar y Dyffryn

DIWRNOD BLASUDydd Sadwrn, Ionawr 26, 2013, 10.00 – 4.00 efo Bob Morris, Twm Elias, Ceri Cunnington a Sel Williams

Cwrdd dros ffordd i Garej Poveys. Tywydd yn oer ond yn sych. Eira mawr wedi bod yr wythnos flaenorol.

Pentref Penygroes yn rhyw 150 oed. Llanllyfni efo Eglwys Rhedyw ydi’r hen le, rhannau ohono yn mynd yn ol i’r 6ed ganrif. Plwyf Llanllyfni ydyw. Ond dyfodiad y chwareli wedi rhoi bodolaeth i Benygroes.

Cerdded at Tai Eryri, ac i fyny Stryd yr Wyddfa at y Neuadd Goffa. Siopau wedi bod yma – siopau arbenigol megis crydd (Mr Herbert) Siop Watches, Siop Ddillad Paragon.

Neuadd Goffa – cyn y Rhyfel, Neuadd y Farchnad oedd yno. Cofadail i’r Rhyfel ac englyn enwog R..Williams Parry.

At y bont sy’n arwain i Ffordd Clynnog. Dangos y ffordd osgoi oddi tanom, dyma’r hen reilffordd. Yn lle mae Amaethwyr Eifionnydd/ Wynnstay yn awr oedd y rheilffordd.

Mae’r cae chwarae yn dal i gael ei alw yn Cwting (Cutting)

Nol ar hyd Heol y Bedyddwyr, capel 1877. Ffordd Haearn Bach/ Tram Rd oedd lle roedd y tramiau cynnar yn dod ym 1820 i gludo y llechi i Gaernarfon. Roedd hen dafarn lle roedd Siop Griffiths. Lawr Lon Pitar at y Banc.

Tafarn oedd hon hefyd ers talwm – Yr Inn (Y Ring) a dyna pam mae tir helaeth yn y cefn (maes parcio rwan). Aeth yn Fanc North Wales and West, wedyn yn Midland Bank a rwan yn HSBC – Hong Kong and Shanghai Bank. Lawr Lon y Sir heibio Capel Horeb (Wesla), wedi cau, tuag at yr hen swyddfa heddlu a sylwi ar yr enw Llwyn y Fuches. Buches o wartheg rydan ni yn ei ddweud am ‘herd of cows.’ Fferm oedd Llwyn y Fuches ers talwm. Roedd Llwyn Onn yn arfer bod yn feddygfa – mwy nag un meddygfa ym Mhenygroes. Roedd C.H.Leonard yn byw yma, dysgu cerdd yn YDN ac arwain Cor Meibion Dyffryn Nantlle. Tynnwyd ein sylw at do ty Gill a’r ty gerllaw, mae patrymau cain wedi ei gwneud efo llechi amrywiol arnynt.

Stopio ger Ty’n y Weirglodd, hen fferm arall, ac edrych ar Ysgol Bro Lleu, neu yr hen County Intermediate School, agorwyd yn 1897. Pasiwyd y Ddeddf Addysg ym 1891 pan roddwyd addysg am ddim i bob plentyn. Roedd Cymru yn awyddus i wneud defnydd eithaf o’r ddeddf hon, a chodwyd Ysgol Ganolraddol Penygroes, Syr Huw a Brynrefail.

Yn ddiweddarach, trodd yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Wedi i’r hen British School gael ei dymchwel tua 1990, trowyd yr adeilad ‘Ysgol Gwaelod’ yn ysgol gynradd, ac aeth YDN i’r adeiladau newydd gyferbyn. Ffordd weddol ddiweddar yw Ffordd y Brenin, tua dechrau 1900.

Aethom yn ein blaenau tuag at Dalysarn, a sylwi ar y Tyrpeg. Tua adeg Helyntion Beca, cyn i’r ffyrdd fod yn eiddo’r Llywodraeth, roedd Tyrpeg yn cael ei sefydlu, a theithwyr yn talu am gael defnyddio’r ffordd.

Ger y Tyrpeg mae Gwinllan Pant Ddu sef menter ddiweddar i gynhyrchu gwin yn Nyffryn Nantlle. Mae Pant Ddu ei hun yn hen fferm, a’r gobaith yw adfer yr hen ffermdy.

Nodwedd ddifyr arall o’r rhan yma o’r pentref yw Caer Engan (en-gan, falle mai ei wreiddyn yw Hen Gaer) lle mae olion o’r Oes Haearn. Mae nifer o gaerau eraill i’w gweld o’r fan hon – Tre’r Ceiri yn eu mysg. Roedd Llanllyfni yn ffin gyda Arfon i un cyfeiriad, Eifionnydd i’r cyfeiriad arall a Llyn i’r trydydd cyfeiriad.

Lon gynnar yw’r lon fach i Dalysarn. Mae’r lon newydd wedi ei gosod ar yr hen drac rheilffordd (agorwyd ddiwedd y 70au?) Mae yna Hen Lon yn nhop y caeau, a hon oedd y lon wreiddiol yn cysylltu’r ddau bentref.

Wedi’r dafarn Halfway, daw rhywun at Ffordd Hyfrydle, ac ar rif 35 mae plac i gofio y bardd Robert Williams Parry (m. 1956). Ar safle’r hen orsaf yn Nhalysarn, mae Canolfan Talysarn godwyd ddechrau’r ganrif newydd. Dim ond y Post sydd ar agor yn Nhalysarn yn awr, ond roedd Cloth Hall yn un o siopau pwysig, ac mae’r safle wedi ei nodi heddiw gyda phlac i gofio mai dyna oedd cartref y Prif Lenor,Gwilym R. Jones. Maes y Llenor yw enw y tai newydd gerllaw. Gerllaw mae rhes Cavour – un o arweinyddion cenedlaethol yr Eidal. Mae hyn yn ein hatgoffa o wreiddiau radicalaidd y Dyffryn. Rhyddfrydwyr oedd llawer o’r chwarelwyr ar y cychwyn, yna wedi sefydlu’r Blaid Lafur, bu’r dyffryn yn gadarnle i Lafur (un o Dalysarn oedd yr aelod seneddol Beti Williams) ac yna trodd i Blaid Cymru.

Ger mynedfa’r chwarel, roedd capel y Parch John Jones Talysarn mewn cyflwr truenus. Roedd o’n daid i Saunders Lewis, ac yn enwog am ei gofiant.Roeddent yn berchen siop, er mai’r wraig, Fanny Jones oedd yr ymennydd tu ol i’r siop. Doedd John Jones ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd y prisiau! Pan ehangodd y chwarel, cloddiwyd siop wreiddiol John Jones a’r capel cynnar dan y rwbel.

Andros o lyn mawr yw twll chwarel Talysarn bellach. Gwelsom yr haenau yn y graig yn dangos newidiadau cynnar yn y garreg a’u gwasgodd i fod yn llechi. Aethom i weld plas y chwarel, murddun dramatig, a theiliau lle roedd y tai allan. Robertson oedd y perchennog, a fo oedd pia’r chwarel. Dyn busnes oedd o yn hytrach na pherchen tir, aco ganlyniad roedd ganddo fwy o gydymdeimlad gyda gofynion Undeb y Chwarelwyr. Yn aml cai ei alw i setlo anghydfod efo’r chwarelwyr. Aethom o amgylch y chwarel a gweld y peiriant enwog y mae Gwynfor Pierce Jones wedi ymladd yn galed i’w achub. Mae Dyffryn Nantlle yn safle nodedig o ran diwydannaeth hanesyddol.

Aethom yn ol i’r Ganolfan yn Nhalysarn i gael cinio a phaned a sesiwn 2 awr yn cynnwys mwy o hanes y dyffryn.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Ebrill. Am ragor o wybodaeth: 01286 882134, benica@gn.apc.org

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s