Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Llenyddiaeth Cymru daith o gwmpas Glynllifon, gyda’r hanesydd lleol John Dilwyn Williams, a’r awdur Gwen Pritchard Jones. Cafodd Dyffryn Nantlle 2020 y syniad am y daith ym mis Hydref. Ar y diwrnod daeth dros 40 i wrando ar y ddau. Dyma rhan o’r daith:
Mae gan Gwen gysylltiadau teuluol gyda Glynllifon. Cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu un o’i nofelau, Pieta, am hanes un o fonedd y Stad, Maria Stella Petronilla. Ar y pryd, ar droad y 19canrif, roedd stad ei gwr, yr Arglwydd Newborough,yn un o’r mwyaf yn Cymru, 30,000 o erw, a gwasgai £20,000 y flwyddyn o’i denantiaid (gweler fan hyn am fwy am Pieta).
Mae gan Dyffryn Nantlle 2020 fwy o syniadau i ddatblygu teithiau a thwristiaid llenyddol yn yr ardal. Oes gennych chi rai?
Diolch Ben
Nora