cynefin a chymuned – sesiwn 1 – i’r pant y rhed y dwr

SESIWN NESAF: NOS FAWRTH, MEHEFIN 25 – SARA ASHTON, CYNALADWYAETH

Mehefin 19 – Sel Williams

Rywsut, roedd o ‘run fath â bod yn ôl yn yr ysgol, saith ohonom rownd bwrdd yn Neuadd Goffa Penygroes, yn gwrando ar athro. Ar yr olwg arall, roedd o’n wahanol i fod yn yr ysgol oherwydd a). roedden ni yno o ddewis b). roedden ni’n dysgu am ein hardal, ac yn dysgu rhywbeth perthnasol.

Economi oedd y pwnc, a dydi o ddim yn bwnc sy’n peri i rHywun ddawnsio efo brwdfrydedd. Ond, – gyda chymorth paned a chacen – a chyflwyniad difyr, cawsom ddwy awr hynod.

Sut mae’r gymuned yn cael y pethau materol mae nhw eu hangen? Dyna oedd y cwestiwn mawr. Sut mae nhw’n cael bwyd a thai a phethau sylfaenol bywyd?

Yma, yng Ngwynedd, amaeth oedd sylfaen ein bywyd tan y G19. Ond y stori gyfarwydd oedd fod mwy a mwy o dir yn cael ei grynhoi i ddwylo llai a llai o bobl. Mae eu henwau yn gyfarwydd – Yr Arglwydd Penrhyn, Lord Newborough, Asheton Smith. Y stadau mawr hyn oedd yn rhentu tir i ffermydd bach. Rhwng 1600 – 1800, cododd rhenti yn aruthrol. Tan 1600, roedd cymuned yn cynhyrchu yr hyn oedd ei angen ar ei chyfer..

Ond yna, mi dyfodd Llundain. Mor gynnar â 1750, roedd 15% o boblogaeth Lloegr yn byw yn Llundain. Doedd ganddyn nhw mo’r gallu i fwydo a dilladu eu hunain, felly wrth i Lundain dyfu, roedd rhaid i eraill gynhyrchu bwyd iddynt. Beth oedd yn cael ei symud i Lundain rhwng 1600-1800? Gwartheg! Cawsom wybodaeth ddifyr am hanes y porthmyn.

cattle

Gweler llyfr gan Twm Elias ar y pwnc. Roedden nhw yn mynd â gwartheg i Lundain, ac yn dod ag arian yn ôl. Am fod lladron yn ymosod arnynt ac yn dwyn yr aur, dyma ddechrau cynhyrchu arian papur, a chael banciau cynnar (megis Banc y Ddafad Ddu a Banc y Ceffyl Du, sef tarddiad Banc Lloyds). Yn y diwedd, roeddent yn cynhyrchu mwy o bapurau arian nag oedd yna o aur, a dyna ddechrau yr arferiad presennol o drin arian nad sydd yn bod.

Wrth i stadau ddechrau cynyddu eu rhent, roedd yn rhaid i’r tenant ganfod mwy o brês i’w talu. Felly roedd rhaid cynhyrchu mwy nag oedd y gymuned leol ei angen er mwyn gallu ei werthu i gael pres wrth gefn.

 Y Chwyldro Diwydiannol yn 1800 oedd y trobwynt mawr, a newidiodd y byd.  Mynn llawer fod  hwn wedi cychwyn yng Ngogledd Lloegr gyda’r melinau cotwm, ond fedrech chi ddim cael melinau cotwm efo toau gwellt! Roedd y diwydiant llechi yn greiddiol i’r Chwyldro Diwydiannol. Ym 1898 roedd y chwareli yn eu hanterth.

llechi

1900 (credwch neu beidio) roedd mwy o chwarelwyr na glöwyr (17,000 o chwarelwyr a 15,000 o lowyr) yn y Gogledd.

Parhau i gynyddu wnaeth cyfoeth yr arglwyddi lleol. Roedd Lord Newborough yn berchen ar 30,000 o erwau yn 1850 ac roedd yn derbyn £200 mil mewn rhent. Mae dyfyniad gan Asheton Smith – Everything you see, I own.

Yn ol y darlun a gawsom, mae’n edrych fel cylch – Arian – Cyfryngau Cynhyrchu – Cynhyrchu – Arian/ Elw. Ond nid cylch mohono, ond spiral. Wrth i’r cynhyrchu gynyddu, mae’r elw yn cynyddu, ac mae’r arglwyddi yn mynd yn fwy fwy cyfoethog. (Pen draw hyn ydi eu bod yn sbyddu’r adnoddau ac yn difa’r blaned….)

Wedi gwasgu y gweithwyr i’r eithaf, trodd yr arglwyddi ei golygon at y tiroedd comin.

1765 – 1/3 o Sir Gaernarfon yn dir comin

1845 – 1/8 “         “                “         “

Pam? Oherwydd y symudiad i gau’r Tiroedd Comin

Darllenwch lyfr David Thomas – Cau’r Tiroedd Comin

1790-1815 – Deg deddf Cau’r Tiroedd Comin

carreg-y-wal-fawr

Roedd pethau yn wahanol yn Nyffryn Nantlle, – am y rheswm syml i’r Arglwydd Newborough fod ar ei hôl hi! Erbyn iddo fod drio hawlio y tir comin ym 1826, roedd y Cymmrodorion Llundain wedi dod yn ddigon gwleidyddol i sylweddoli yr hyn oedd yn digwydd, bu protestiadau mewn llefydd fel Rhostryfan, a rhwystrwyd Newborough rhag ei gymryd. Mae talpiau helaeth o ucheldir Dyffryn Nantlle wedi aros yn dir comin.

Bu protestiadau yn Llanberis, ond anfonodd Asheton Smith garisiwn o’r Scottish Highlanders i’w rhwystro.

Mae hyn yn ofnadwy o bwysig. Os oeddech chi yn chwarelwr yn Neiniolen, ac yn streicio, nid yn unig roeddech yn colli eich gwaith, ond yn colli eich cartref.Ond os oeddech chi yn dyddynwr yn Rhostryfan, ac yn streicio, gallech golli eich gwaith, ond doedden nhw ddim yn gallu eich taflu allan o’ch cartref.

Yn 1840, roedd 2,000 o chwarelwyr yn Penrhyn, 2,000 yn Ninorwig, 1,000 yn Ffestiniog a 1,000 yn Nyffryn Nantlle – sef cyfanswm o 6,000 o chwarelwyr (gweler fan hyn am ffigyrau manwl am Ddyffryn Nantlle o 1880au).

Ar ffermydd llai, roeddent yn codi rhent mor uchel fel na allai pobl eu talu. Roedd yn rhaid iddynt fynd i weithio yn y chwarel neu werthu eu tir. Roedd hyn yn rhywbeth oedd yn digwydd ar draws y byd, yn rhan o’r diwydiannu. Roedd hefyd yn troi gwerin gwlad yn broletariat. Nid symud o’u gwirfodd a wnai pobl, ond roedd grymoedd economaidd yn eu gorfodi i symud. O ganlyniad, collent gysylltiad efo’u gwreiddiau.

Darllen Gwyn Alf Williams The Merthyr Rising

 1801  – 4,000 o bobl yn nhref Caernarfon

1851 – 10,000 “     “       “      “

Roedd llawer yn ymfudo, mynd i’r Unol Daleithiau. Roedd y diwydiant llechi yn un byd eang cyn bod son am Globaleiddio.  1800-1900, fe ddyblodd poblogaeth Sir Gaernarfon (er gwaetha’r allfudo)

Yr hyn ddigwyddodd yn niwedd y G19 oedd twf undebau llafur. Wrth i’r gweithwyr drefnu eu hunain yn undebau, roedd llai o elw yn mynd i ddwylo’r meistri. Roedd grym y dosbarth gweithiol yn fwy. Gwlewyd hyn yn nhref Caernarfon gyda gweisg, llawer yn darllen, bwrlwm diwylliannol a phobl yn magu mwy o hyder. Law yn llaw a hyn, cafwyd syniadau newydd am wleidyddiaeth a chrefydd. Cyfnod sefydlu yr ILP, Independent Labour Party.

280px-Keir_Hardie,_Independent_Labour

Daeth asiad o Gymreictod/ Sosialaeth a Chrefydd radical.

Yr hyn roddodd y farwol i hyn oedd y Rhyfel Byd I (1914-18). Mae y ffigyrau yn syfrdanol.

1915 – 13% o ddynion cyflogedig yn listio, 40% o’r diwaith yn listio. Doedd y chwareli ddim yn gweithio yn ystod y Rhyfel (non essential work)

c williams

Fe laddwyd chwarter y chwarelwyr sgilgar yn Rhyfel Byd I.

Fe chwalwyd y Mudiad Sosialaidd wedi’r Rhyfel. Yn ei le, cafwyd mudiad Llafur oedd yn gofyn am subsidy ac am system les. Mudiad oedd yn gofyn, nid mynnu ydoedd. Yr unig beth wnaeth Rhyfel Byd I oedd adfer elw ar draul colli gwaed, gan ddinistrio gobaith am gael rhwybeth yn lle’r drefn gyfalafol.

Mae hanes y diwydiant llechi yn yr G20 yn hanes o grebachu. Ond mae’r ffigyrau yn dal i’n sobri e.e. Yn ol y Times, roedd yr Arglwydd Penrhyn yn gwneud £150,000 o elw y flwyddyn yn ail hanner y G19 ar Chwarel y Penrhyn yn unig.

Yr hyn sy’n drist heddiw yw ein bod ymysg gwledydd tlotaf Ewrop, er gwaethaf cyfoeth naturiol Cymru.

Cawsom ffigyrau pellach ar sail rhyw – e.e. Ym 1937, yr oedd 8,700 o ddynion yn gyflogedig, ond dim ond 340 o ferched.

Rhwng 1931-39, roedd canran y diwaith yng Nghymru rhwng 23%- 37%. Yn ystod y 30au, fe gollon ni 20% o’n pobl (ifanc gan mwyaf). Roedd hyn yn ddamniol i’r Gymraeg.

I gael gwaith, rhaid oedd gadael Cymru. Diben y drefn addysg oedd addysgu pobl iddynt adael Cymru. Pa werth felly oedd i’r iaith Gymraeg?

Felly i grynhoi, mae yn hawdd iawn gweld pam bod Cymru a Dyffryn Nantlle mewn cymaint o dwll. Y gwaith rwan yw meddwl sut i’w chael allan o’r twll hwnnw.

blodyn

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s