cynefin a chymuned rhan 3 – cymdeithas

‘SHAME ABOUT THE PEOPLE”

 Shan Ashton, Gorffennaf 2

“Nid dynes parlwr ydi Shan!” oedd geiriau mab yng nghyfriath Shan wrth ei fam (gweler fan hyn am fwy o dystiolaeth!).

shan_ashton_01_146x82Ac mae hynny yn crisalu ei chymeriad. Gwraig y gegin gefn yw hi, mewn mwy nag un ystyr. Dydi hi ddim wedi cael cydnabyddiaeth pobl grand y parlwr, a tydi hi ddim mo’i eisiau ychwaith.

Yn y gegin gefn mae’n dymuno bod, yn torchi ei llewys, yn siarad efo merched eraill, ac yn trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth wirioneddau oesol.

Yn nhrydedd sesiwn Cynefin a Chymuned, dangosodd Shan ffilm inni am gymuned Ladakh draw yn yr India. Ond wrth siarad am Ladakh, roedd yn traethu’n huawdl am y tebygrwydd rhyngddi â’i chymuned enedigol hi yn Nhregaron, ac roedd rhywbeth cwbl ffres yn y darlun hwn o Ladakh a chors Caron!

Y gwirionedd mawr am drigolion Ladakh yw eu bod yn deall eu cynefin. Maent yn adeiladu eu tai o ddeunydd o’u cwmpas (ac mae pawb yn gallu codi tŷ). Maent yn hunan gynhaliol, ac yn byw drwy gyd-ddibynniaeth. Dydyn nhw ddim yn trin arian, ad-dalu cymwynasau yw sail eu economi. Maent yn setlo anghydfod rhwng ei gilydd, ac yn dod i gyfaddawd. Rhoddant werth ar y gwaith o fagu plant, ac mae ganddynt ddiwylliant cyfoethog sy’n atgyfnerthu’r syniad o berthyn. Uwchlaw popeth, mae’r bobl yn profi hapusrwydd a bodlonrwydd dwfn.

 Atgoffodd Shan ni nad oedd eisiau dychwelyd i ddyddiau caled ei hen-famgu (a esgorodd ar 22 o blant), ac nid oedd am wyngalchu’r gorffennol. Ond mae hi ei hun hyd yn oed yn gallu dwyn i gof ddyddiau cneifio ar fferm Nantllwyd (ger Soar y Mynydd) lle byddai y dasg yn cymryd tridiau, a lle deuai pawb ynghyd.

Rhaid cynnwys dipyn o Waldo ym mhob sesiwn, a’r llinellau ddaw i gof yw disgrifiad y bardd o ddyddiau’r cynhaeaf yn ei ardal ef,

 

                        ‘Cof ac arwydd, medel ar lethr eu cymydog,

                        Pedair gwanaf o’r ceirch yn cwympo i’w cais,

                        Ac un cwrs cyflym, ac wrth laesu eu cefnau

                        Chwarddiad cawraidd i’r cwmwl, un llef pedwar llais.’

                                                                                                                                    Preseli

I brofi nad rhamantu am y gorffennol yr oedd, soniodd am brofiad go ddiweddar yn ei chymuned bresennol, Capel Curig, yn trefnu’r eisteddfod bapur bro yn y pentref. Yn ystod cyfnod y clwy traed a’r genau, cafodd y pentref gyfle i ddod ynghyd i gystadlu, a’i hatgof hi o’r noson yw llond stafell o bobl yr ardal yn chwerthin lond eu boliau. Does dim rhaid i bawb yn y gymuned gytuno a’i gilydd, ond mae angen iddynt ddysgu cyd -fyw a dibynnu ar ei gilydd.

Daw Shan at y mater hwn o ddatblygu cymuned o safbwynt Daearyddiaeth.

Tynnodd ein sylw at waith Bryden sy’n talu sylw i le. ‘How important it is to be place-focused’ , a mor greiddiol yw dysg pobl leol.

01_Place_Diagram-Converted3-530x453Drwg y drefn addysg yw ein bod yn ein magu i gredu nad oes gwerth yn ein cynefin ein hunain. Holl fyrdwn y drefn addysg yw nad yw ein lle ni ‘yn ddigon da’, a bod rhaid inni Adael os ydym am fynd ymlaen yn y byd. Ond mae’n bwysig dysgu hanes diwylliannol eu hardal leol i blant. Mae hyn yn eu grymuso.

 Prif ddarganfyddiad y noson i mi oedd cyflwyniad Shan i waith Euros Lewis.

Mae ganddo 2 bapur ar y We – un yn mynd nol i 2007 – A Welsh Geometry of Community and Culture, a’r llall yw Living With Our Landscape. Mae son fod Euros Lewis yn rhoi sgwrs ym Mangor yn yr Hydref, felly edrychwn ymlaen at hynny. Mae Euros yn tynnu sylw at y nifer o enwau a thermau sydd gan y Cymry am eu cynefin – bro, cymuned, y filltir sgwar, cymdogaeth ac ati.

 Beirniadaeth mwyaf Euros Lewis yw o’r bobl sy’n gwthio ‘straight line thinking’, lle mae’r canlyniad wedi ei benderfynu cyn cychwyn ar y gwaith. ‘Communities with imagination need not apply’ yw hi mor aml. Dywedodd Shan ei hun fod y cynllunwyr hyn bob tro yn cychwyn efo beth sydd ar goll yn y gymuned, yn hytrach nac edrych am yr hyn sydd gan y gymuned. Rhaid cychwyn yn bositif, efo’r potensial sydd gan bob cymuned.

‘Filling the gaps’ yw’r feddylfryd bob tro, yn hytrach na ‘growing from within’. Golyga hyn ymddiried yn ein cymunedau. ‘You cannot plan on a map, we need a field map that places us inside the landscape’

Mae Living with our Landscapes yn swnio yn bapur difyr hefyd, lle mae’n cyfeirio at waith beirdd, a’r modd mae beirdd Cymru yn uniaethu efo’r tir. Dyfynnodd linellau cyntaf Preseli, lle mae Waldo yn enwi’r mynyddoedd, ac yn datgan eu bod

                         ‘Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn’

a Parry Williams yn dychmygu sut y daw ‘crac i gyhyrau Eryri’ pan gyhoeddir y newyddion am ei farw.

Ond nid oes unrhyw gydnabyddiaeth swyddogol i hyn. Mae llwybr arfordir Penfro, ger Trefin, yn cyfeirio at lwybr yr arfordir. Mae’r rhan fwyaf o Gymry yn dod i Drefin am iddynt ddysgu fel plant,

            ‘Nid yw’r felin heno’n malu/ Yn Nhrefin wrth fin y mor’

Ond er mai’r felin maent yn chwilio amdani, nid oes unrhyw arwydd yn cyfeirio ati.

Nododd Elen Huws iddi glywed pobl o’r tu allan yn trafod Dyffryn Nantlle, ac yn ychwanegu, “Shame about the people and the quarries” !

            Rhaid inni herio’r agwedd hon.

pedagogy_of_the_oppressed[1]Cyfeiriodd Shan at waith Margaret Ledwith (gweler fan hyn) – sy’n mynd ar drywydd gwaith Paulo Freire (Practise of freedom and not the maintanance of the status quo – gweler fan hyn am fwy)

Mae Euros Lewis yn gweithio ar bapur ar anarchiaeth ar hyn o bryd, ac yn herio’r darlun negyddol ohono.

Gorffennodd Shan ei sgwrs gyda cais arnom i gasglu storiau, achos o’r rhain yr ydym yn dysgu. Soniodd am Wyddel oedd wedi bod yn godro pres o Ewrop am flynyddoedd. Grant tuag archeoleg oedd o’n ei gael, yn llenwi’r ffurflenni i gyd mewn Gwyddeleg, a neb yn ei herio am flynyddoedd. Yn y diwedd, edrychodd rhywun i mewn i’w waith, a chanfod nad archeoleg oedd o wedi bod yn ei ymarfer o gwbl. Yn hytrach, roedd o wedi bod yn talu pobl leol i godi waliau sych yn ei ardal. Pan dynnodd rhywun ei sylw at hyn, fe heriodd ei diffiniad o Archeoleg. “It’s archeology from what we understand of it here” dadleuodd yn chwyrn. “We are building the archeology of the future”!!

Ac mae llawer o wir yn y stori honno.

Mae yna gymaint o bobl yn gwneud ei bywoliaeth o rannu rhyw grantiau penodol a thicio’r bocsys iawn. Ond dydi’r grantiau a’r ffurflenni hyn ddim yn symud pethau yn eu blaenau o gwbl. Soniodd Shan am brofiad ei merch yn mynd drwy dudalen swyddi yn y Daily Post bob dydd Iau, a cwbl oedd y swyddi oedd pobl ticio bocsys a chynnal y drefn.

Cwestiwn ei merch oedd “Lle mae swyddi y beirdd ryfelwyr?” Dyna’r bobl sy’n arwain ac yn newid cymdeithas.

Nid yw pobl yn byw mewn prosiectau. Yn hytrach maent yn byw, ac mae angen i reolwyr prosiectau sylweddoli hynny.

Y peth pwysicaf ddywedodd Shan oedd fod yn rhaid inni ail-gydio ym mhwy ydyn ni, a chymryd gofal o’n dyfodol ein hunain. Petai pawb yn gofalu am ei gilydd, fyddai dim angen son am ddatblygu cymuned.

Advertisements
Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s