cynefin a chymuned 4 – hanes

4,500 o flynyddoedd mewn 2 awr!

SESIWN BOB MORRIS 10 Gorff 2013

Mae yna naws arbennig i’r sesiynau Cynefin a Chymuned. Rydan ni yn clywed darlithoedd radical i gyfeiliant côr gorau’r dyffryn, Lleisiau Mignedd (sy’n ymarfer yn y stafell drws nesaf) tra’n mwynhau paned a chacen, a diod ysgaw. Diolch i Menna Machreth am ddarparu’r enllyn y tro hwn – danteithion pecan. Diolch i’r aelodau fenga hefyd am ddarparu’r baned. Mae hwn yn datblygu yn gynllun profiad gwaith tra effeithiol!

Doedd o fawr o syndod fod deg wedi dod i sesiwn ola’r tymor hwn, gan fod Bob Morris yn dipyn o seleb yn y cylchoedd hyn. Mae ei wybodaeth yn ddi-ben draw, ac mae’n siaradwr mor ddifyr.

Hanes oedd testun Bob – o’r Oes Efydd i’r Rhyfel Byd I (mewn 2 awr), ac oherwydd rhychwant y testun, chafwyd ddim toriad yn y canol y tro hwn! Ond roedd yn fater balchder fod modd olrhain hanes dynoliaeth yn Nyffryn Nantlle yn ôl i’r Oes Efydd. Rhwng Gelli Ffrydiau a Drws y Coed, mae patrymau caeau hynafol.

caer engan

Caer Engan – bryngaer o’r Oes Haearn

Roedd gan Bob sleidiau hefyd, a thynnodd ein sylw gyntaf at Gaer Engan (ynganer En-gan) sydd dros y ffordd i Pant Du. Saif ar ben craig naturiol. Gellir gweld olion llechweddau serth, ac mae ei lleoliad ar lan yr afon Llyfnwy yn arwyddocáol. Er i mi gael fy addysg yn Nyffryn Nantlle, chefais i erioed wybod am hon yn yr ysgol, oedd dafliad asgwrn o’r gaer. Does dim olion fel Tre’r Ceiri yma, ond dangosodd lluniau Bob mor allweddol oedd y safle – yr Eifl i un cyfeiriad, a golwg glir o’r Wyddfa o gyfeiriad arall.

Cymdeithas hamddenol o ffermwyr oedd yma a does dim tystiolaeth o arfau.

Yn Iwerddon, roedd Oes yr Haearn yn gyfnod o arweinwyr milwrol grymus, ac mae hyn i’w weld yn eu mytholeg gyda Cuchulain. Yn Llen Cymru, ar wahan i Ysbaddaden Bencawr a aberthwyd er mwyn y llwyth, dydi hyn ddim yn ffenomena mor amlwg.Mae’r Mabinogi wedi eu hail-wampio, ac mae stamp mwy diweddar arnynt (G12- G13).

Fferm Cefn Graianog (ger Pant Glas) – fferm o’r Oesoedd Canol

Bu cloddio archeolegol yma gan GAT ym 1974-75 gan Richard White a Richard Kelly, a chafwyd canfyddiadau diddorol. Roedd modd – o astudio’r pridd – ganfod cryn dipyn am ffordd o fyw y rhai fu yma. Roedd 4 adeilad pren – Beudy, Ydlan, tŷ a Stabl. Drwy archeoleg fywydegol, mae modd canfod beth oedd amgylchedd naturiol yr ardal. Roeddent yn bwyta pysgod, er eu bod dipyn o bellter o’r mor. Roeddent yn mwynhau gwin ysgaw. Gwenith spelt oeddent yn ei fwyta, er y credid nad oedd hwn yn tyfu yng Nghymru, ond yn fwy nodweddiadol o Ddwyrain Ewrop. Fe’i plannwyd yn ddiweddar, a chanfod ei fod yn tyfu yma. Gyda llaw, bu newid yn yr hinsawdd tua 1250. Trodd yn oerach a gwlypach.

Does dim tystiolaeth ddogfennol o fferm Cefn Graianog. Roedd llawer o’r tir yn perthyn i Glynnog Fawr, gan fod hen fynachlog yno, ac roeddent yn dirfeddianwyr mawr. Roedd eu dylanwad yn seciwlar felly, yn ogystal â chrefyddol. Caent elw o dwristiaeth – dyna pam oedd cymaint o alw am greiriau seintiau, gan fod rhain yn gyrchfan pererinion – twristiaid yr oes! Roedd Clynnog ar y ffordd i Enlli.

eglwys llanllyfni

Eglwys Gredfyw Sant, Llanllyfni

Cyn bod sôn am Benygroes, roedd Llanllyfni yn hen. Mae’r eglwys yn hynafol iawn, a’r hen borth yn mynd yn dyddio’n ôl i’r G13. Mae’r plygain yn dal yn fyw yno. Yn G19, Robert Ellis oedd y clochydd, bardd gwlad ac awdur sawl carol blygain.

Cawsom weld lluniau o argraffiad cyntaf fersiwn Guest o’r Mabinogi, megis creu Blodeuwedd (1848), a difyr meddwl fod y bedwaredd gainc wedi cael ail wynt gan y Theatr Genedlaethol gyda Blodyn a Blodeuwedd. Cawsom restr o enwau sy’n tynnu sylw at gysylltiadau yn Arfon efo’r 4edd gainc.e.e fferm Lleuar a Bryngwydion. Cyfeiriadau toponimig y gelwir y rhain lle mae lle ac enw yn gysylltiedig. Roedd Saunders Lewis yn dal fod marw Pryderi (arglwydd y Deheubarth) gan Fath (o Wynedd) yn bropoganda yr oes – er mwyn plesio Llywelyn, a Llys Gwynedd.

blodeuwedd

Yr oedd llysoedd brenhinol yn yr ardal, megis Baladeulyn. Sut y gwyddom? Oherwydd fod cofnod ohono. Daeth Edward I i aros yno tra roedd Castell Caernarfon yn cael ei godi yn 1284. Ym mis Mehefin, roedd Edward yn cael ei benblwydd, ac aeth ar goll wrth fynd am Faladeulyn. Cafodd gyfafrwyddyd gan hen ŵr, a thalodd 2 swllt iddo am ei help. Mae cofnod o hyn i’w weld yn Kew.

Cwmwd oedd yr uned wleidyddol bwysicaf yn yr Oesoedd Canol. Sylfaen perchnogaeth tir yng Nghymru oedd ‘gafael’ – daliad tir a feddai’r unigolyn. Fel rheol,

deuai hwn i’w ran fel aelod o ‘wely’ neilltuol – cylch disgynyddion yr un hynafiaid. Yn hytrach na throsglwyddo’r tir i’r cyntaf anedig, roedd cyfraith Gymreig yn rhannu eiddo’r tad rhwng y meibion (ond wedi’r 3edd genhedlaeth, roedd y dalaidau yn cael eu had-drefnu yn gyfartal). Lle nad oedd tir gwelyog, tir yn perthyn i’r Tywysogion ydoedd, a phobl yn denantiaid i’r Brenin.

1352 – Arolwg Daliadaeth Tir – Yr ‘Extenta’ neu’r ‘Stent’ ar lafar.

Gwnaeth y Goron arolwg o diroedd ac eiddo Sir Gaernarfon, wedi’r goncwest (dyna pryd daeth Sir Gaernarfon i fodolaeth) Cwmwd Uwch Gwyrfai oedd o cynt.Ceir manylion diddorol yno, yn cynnwys y trethi oedd yn rhaid i’r deiliaid eu talu i’r Brenin.

Mynd o lys i lys wnai’r Tywysog a’i bobl, gan fwyta popeth oedd yno fel locustiaid, a symud ymlaen i lys arall. Ond roedd pobl yn byw yn y llysoedd hyn i ofalu am y tir a’r da.

1536 – Y Ddeddf Uno

Wedi 1536 a’r Ddeddf Uno, diflannodd y drefn hon a mabwysiadwyd y drefn Saesneg. Twf y stadau tirog modern a geir, gyda teuluoedd Cymreig yn manteisio ar drefn etifeddiaeth cyfraith Lloegr – y ‘primogenitus’, etifeddiaeth y cyntaf anedig. Cafwyd priodasau ‘strategol’ i helaethu’r ystadau, fel yn achos Glynllifon, y Faenol, Bryncir ac eraill.

Y Bryncir oedd y stad bwysig i Ddyffryn Nantlle.

1838 Arolygon Deddf y Degwm

Ym 1836, cafwyd deddf oedd yn ei gwneud yn orfodol i’r degwm a dalwyd i’r eglwys gael ei dalu mewn arian. Cyn hyn, roedd modd ei dalu mewn cynnyrch megis gwenith a chaws a wyau hyd yn oed. Felly roedd rhaid gweithio allan faint ddylai bawb ei dalu. Rhwng 1838 a 1845, cafwyd arolwg hynod fanwl o berchnogaeth a defnydd tir drwy Gymru a Lloegr. Ym 1841 y gwnaed un Llanllyfni a dengys y Dosbarthiad Degwm fod 58 o dirfeddianwyr ym mhlwyf Llanllyfni y flwyddyn honno. Mae arolwg 1841 yn un hynod bwysig. Gwnaed syrfei o bob plwyf, a cheir map yn dangos bob cae, pwy oedd y tenant a beth a dyfwyd. Does dim byd tebyg wedi hyn tan 1930au pan wnaed Land Use Survey

Twf Diwydiant

O’r G18 mae’r economi yn newid, o’r gwledig i’r diwydiannol. Cafwyd cloddio am gopr yn Nrws y Coed, a chwareli llechi yn y Cilgwyn. Pobl fusnes ddeuai o bell i fuddsoddi yn y gweithfeydd hyn, ac i geisio ennill cyflog o’r graig. Datblygodd clymaid o chwareli canol y dyffryn, o’r Gloddfa Glai i Benyrorsedd. Byddai pobl leol yn helpu i hwyluso hyn.

chwarelwr

Tyfodd cymunedau diwydiannol ar hyd yr ardal, yn cynnwys Talysarn, Nantlle, Rhosgadfan, Rhostryfan, Carmel a’r Groeslon. Pentref Penygroes oedd y canolbwynt, oedd yn cyplysu’r ardal a’r rheilffordd, sef y tramffordd ceffyl (y Ffordd Haearn). Dwy droedfedd o led oedd hi, ac fe’i sefydlwyd gan bobl leol, oedd yn mynd at y farchnad arian yn Lerpwl i ddenu rhai i’w ariannu. Mae’n rhedeg yn gyfochrog â Lon Eifion. Fe’i agorwyd ym 1828 o Dalysarn i Gaernarfon.Ym 1867, cafwyd rheilffordd ager y LNWR, London and North Western Railway, o Afonwen i Gaernarfon ac fe’i ymestynnwyd i Dalysarn ym 1872

  • steision Nantlle y’i galwyd, i gludo llechi.

    Ceir enwau y chwareli yn Arolwg C’von and Denbigh ym 1873.

dorothea engine house-1950

Cafwyd lluniau o rai o’r peiriannau yn Chwarel Dorothea, sydd o ddiddordeb hanesyddol. Y Cornish Engine (1904) oedd yn pwmpio dwr o’r twll. Yn niwedd Oes Fictoria, bu ymdrech i ddraenio y llyn isaf. Dywedodd John Dilwyn mai taid ei wraig oedd Thomas Williams Gwynfa, a chafodd raw arian i gofnodi’r achlysur! Yn yr oes hon y codwyd Plas Talysarn i Robinson, perchennog y chwarel, lle roeddent yn byw fel boneddigion. Adfail yw’r lle bellach, er y gellir gweld teils y stablau o hyd. Ym mhen arall y lein yng Nghaernarfon y gwelir Gweithdy Haearn de Wintton, lle gwnaed lot o offer y chwarel, a’r olwyn ddwr. Ac yn y porthladd yr oedd y llongau y canodd J.Glyn Davies (Fflat Huw Puw) iddynt.

Diwylliant a Chymdeithas

Ym 1886 cafwyd y Caernarvonshire Postal Directory sy’n rhoi darlun inni o’r mathau o fasnachu a gwasanaethau oedd ym Mro Eryri. Pentref gwasanaethu oedd Penygroes, efo 1 argraffydd, 2 asiant yswiriant, banc, 6 cigydd, 9 dilladydd, 7 crydd, 2

fferyllydd, 26 groser, 3 gwesty dirwest, 5 ironmonger, 2 feddyg, 1 llawfeddyg, 2 blastrwr, 2 bobydd, 1 sadlwr, 1 saer maen, 6 siopwr, 8 tafarnwr, 5 teiliwr, 2 ysgol, 1 watchmaker, 2 driniwr gwallt, 1 swyddfa post, 1 towr llechi – a dim un cyfreithiwr!

Erbyn yr 1890, roedd oes y stadau mawr yn dechrau dod i ben, a dirwasgiad yn y byd amaethyddol. Ceid cig o’r Ariannin a’i rewi, ŷd a gwenith o’r UDA – miloedd o dunelli ohono. Codwyd treth marwolaeth (death duties). Ar Orffennaf 13,1895, cafwyd arwerthiant o eiddo Stad Bryncir – fe’i cynhaliwyd yng Ngwesty’r Sportsman yng Nghaernarfon (lle mae’r Cyngor Sir rwan) ger Pen Deitsh. Ceir enwau’r caeau – yr Egal, Cae Bonc, Cae ty ucha,Gors, Cae Eithin. Gwerthwyd 4,500 o erwau hefyd yn Rhagfyr 1895 yn Neuadd y Plwyf, Cricieth.

Mewn llenyddiaeth, ceir portreadau Glasynys o wyliau traddodiadol gwledig. Roedd patrymau hamdden gwledig a’r newid i’r dull lled drefol. Cafwyd twf y cor, y band a’r tim peldroed gyda chynnydd diwydiant, corau a cherddorion nodedig (e.e. Mary King Sarah a’r Brodyr Francis). Ymysg llenorion y bröydd chwarelyddol mae Glasynys, Dic Tryfan, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Silyn Roberts, R.Williams Parry, T.H.Parry-Williams, Gwilym R. Jones a Mathonwy Hughes. Cafodd crefydd hefyd ddylanwad mawr ar y fro. Un capel enwog yw capel John Jones, Talysarn.

t h parry williams

Newid pellach mewn cymdeithas

Cafwyd penllawn a thrai y diwydiant llechi; radicaliaeth wleidyddol ar ei amryfal ffurfiau; Rhyfel Byd I a’r ‘rhwyg o golli’r hogiau’; chwalfa’r stadau mawr a bri ar fferm deuluol; dirwasgiad y 30au; diweithdra ac anfantais (dadansoddiad Dylan Pritchard o economi Arfon); problemau iechyd – diciau yn y fro; trawsnewid wedi Rhyfel Byd II – Dyffryn Nantlle heb y chwareli; y daith dros y diwaith; arallgyfeirio a chynllunio economaidd; cydberthynas cadwraeth a datblygiad economaidd fodern – heb sôn am y mewnlifiad!

Gweler Dyffryn Nantlle – Landscape of Neglect, am yr hyn sy’n digwydd i gymdeithasau ôl-ddiwydiant.

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael sylw