cynefin a chymuned 5 – archeoleg

Sesiwn nesaf – Medi 11, Dafydd Gwyn, archeoleg y chwareli

Dipyn o her oedd ennyn fy niddordeb mewn archeoleg – pwnc na fu gen i iot o ddiddordeb ynddo, ond fe lwyddodd Rhys Mwyn i wneud hynny. Ei ddiffiniad o Archeoleg oedd ‘astudiaeth o hanes dyn drwy gloddio safleoedd ac astudio gwrthrychau’ neu ‘astudiaeth o hanes a diwylliant dyn drwy astudio olion materol dyn’.

Hmm, mae gen i ddiddordeb mewn hanes a diwylliant, felly falle nad ydyw’n gwbl amhosib i mi wrando ar Rhys Mwyn am awr o leiaf. Roedd yn help fod ganddo luniau i gyd fynd â’i sgwrs. Rhannu wnaeth o ar y dechrau rhai o’r darganfyddiadau. Y llun cyntaf oedd sgerbwd dynol a ganfyddwyd yn 2012 ar fferm yn Llanbedrgoch, yn mynd yn ôl i gyfnod y Llychlynwyr. Nid yw’r esgyrn o hyd yn goroesi, e.e. Yn safle’r Hendre yng Nghaernarfon, dim ond y tyllau lle roedd y beddau a welir, mewn tir asidig, nid yw’r esgyrn yn para.

Cawsom weld llun o gallestr (fflint) a ddefnyddiwyd fel offer i wneud pethau.

Dyffryn_Ardudwy_chambered_cairn

Y gromlech gynharaf yng Ngogledd Cymru yw un yn Nyffryn Ardudwy sydd yn dyddio’n ôl i 3,500 C.C. Ar yr arfordir mae’r olion i’w gweld, nid oes dim yn Nhrawsfynydd a Dolgellau. Gwelsom lun o gyllell fetal (Llychlynwyr), ac arian Rhufeinig. Pan ddown o hyd i arian Rhufeinig, nid yw hynny o reidrwydd yn dystiolaeth fod Rhufeiniaid wedi bod yno. Prawf ydyw fod rhywun o bosib wedi marchnata gyda Rhufeiniaid, a bod y darn arian wedi dod i law rhywun yn yr ardal honno. Erbyn 383 – 393 OC, roedd y Rhufeiniaid wedi mynd.

Er roedd Lladin yn dal i gael ei ddefnyddio ar gerrig beddi e.e. Eglwys Penmachno ac ar gerrig Anelog. Mae hyn yn dynodi statws.

Y llun mwyaf gwefreiddiol i mi oedd peth bach sgleiniog cain 3 modfedd a ddefnyddiwyd i gario allweddi. Gwrthrych ganfyddwyd yn ddiweddar yn y mawn yw hwn sy’n perthyn i 1500. Yn Cwmpennaner y’i cafwyd, ar safle Maredydd ap Ieuan, cyn deidiaid teulu’r Wynniaid. Mae’n dangos ffasiwn y dydd ac wedi ei wneud o efydd. Mae rhai gwrthrychau yn goroesi yn well na’i gilydd, ee, lledr.

Mae’r tameidiau cyntaf o haearn a gafwyd yng Ngogledd Cymru wedi eu canfod ym Mhen y Gogarth lle roedd gwaith copr. Yn 1500 CC roedd pobl yn eu trin, yn eu hidlo, ac yn y gwaddod y mae haearn. Os ydynt yn trin copr, yn y broses mae haearn yn dod allan.

llechi rufeinig

Cawsom weld llechi to (o’r Cilgwyn) ddefnyddiwyd ar faddondy yn Nhremadog. Roedd y Rhufeiniaid yn defnyddio llechi, ond nid y Celtiaid. Grug neu wellt oedden nhw yn ei ddefnyddio. Yn Segontium, gwelwyd llechi.

Yn y llun olaf, roedd Rhys wedi neidio cryn dipyn ymlaen, gan ddangos peilons gwaith copr yng Nghwm Bychan, Aberglaslyn. Mae popeth, pob olion dynol o ddiddordeb i archeolegwyr.

Yn yr ail hanner, gwelsom lun o chydig o gotiau chwarelwyr ar ôl mewn cwt yn Ninorwig. Pan gaeodd y chwarel, gadawyd popeth fel ag yr oedd. Gyda’r chwarel wedi cau (ym 1979), doedd dim diben mynd a’r offer efo nhw. Fe’i gadawyd yno. Gwneud y llwyfan lechen ar gyfer arwisgo Prince Charles oedd y gwaith dwytha i’w wneud yn Ninorwig.

Aeth Rhys yn ei flaen i ddangos tystiolaeth mwy diweddar o hanes dyn. Y symbol ‘A’ am Anarchiaeth yn Chwarel Dorothea, lle roedd pobl yn cwrdd yn yr 80au (20ed ganrif) i gael rêfs. Ger Pont Reilffordd yn y Bala, mae symbol yr FWA. Gwelir graffiti FWA ar y bont reilffordd ym Machynlleth a’r geiriau Lone Wolf. Aelod o’r FWA oedd Lone Wolf. Mae hwn i gyd yn hanes.

lone wolf

Soniwyd am Fantell Aur Yr Wyddgrug, a chafwyd trafodaeth amdani. Yr hyn sy’n bwysig amdani yw yr hanes mae’n ei gynrychioli – fod rhywun yn yr ardal honno yn ddigon pwysig ryw bryd i wisgo y fath beth. Doedd yr Wyddgrug 2,000 CC ddim yn lle diarffordd.

Gwerth gwrthrych yw’r wybodaeth mae’n ei drosglwyddo inni.

Awgrymodd 2 lyfr da inni eu darllen:

bloody old britainsoil and soil

Ar y diwedd, cawsom gyfle i weld gwrthrychau yr oedd Rhys wedi dod a hwy gydag o, a mawr oedd y diddordeb yn y rhain.

Roedd yn goblyn o noson ddifyr, yn rhannol oherwydd brwdfrydedd Rhys am y pwnc, ond fe agorodd fy llygad i i faes nad oeddwn wedi mentro iddo o’r blaen. Y tro nesaf yr awn am dro, yn ogystal â gwerthfawrogi yr olygfa, boed inni edrych ar yr hyn sydd wrth ein traed – does wybod beth ddown ni o hyd iddo!

Darganfod-y-Gymru-Gynnar

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s