cynefin a chymuned 6 – diwylliant

Sseiynau nesaf

Hydref 30 – defnyddio cyfryngau cyfoes – Menna Machreth a Rhys Llwyd

Tachwedd 6 – natur Eryri – Twm Elias

‘NID ATODIAD MOHONOM’

LLENYDDIAETH DYFFRYN NANTLLE

Karen Owen, Medi 18, 2013

Rydw i’n meddwl yn aml efo’r sesiynau hyn, rhaid i mi gael fy siomi efo un ohonynt, fedra nhw ddim dal i gadw’r safon osodwyd ar y dechrau. Ond y mae nhw yn fy rhyfeddu bob tro, ac yn agor fy llygaid.

‘Llenyddiaeth Dyffryn Nantlle’, meddyliais y byddai’r ddarlith hon yn bendant yn mynd dros hen dir sy’n gyfarwydd iawn i mi. Ond na! Llwyddodd Karen, yn ei dull dihafal, i beri i mi edrych ar yr holl destun drwy sbectol newydd.

Cychwynnodd drwy ofyn rhai cwestiynnau sylfaenol iawn megis, sut mae diffinio llenor o Ddyffryn Nantlle. Sut mae diffinio Dyffryn Nantlle? Ydyn ni’n cynnwys Bontnewydd, Pantglas neu Ryd-Ddu? Os nad ydym yn cynnwys yr olaf, ni allwn hawlio un o feirdd mwya’r G20. Roedd wedi cyfri 67 o lenorion ar y cychwyn, ac yna cododd y cwestiynnau hyn. Ai ffin ddaearyddol ddylai hi fod, neu ydi o’n fater o drafod ‘y teimlad o berthyn’.

Wedi dychwelyd yn ddiweddar o Chile a’r Wladfa, roedd llwyth y Manpuchi wedi cydio yn ei dychymyg, ac yr oedd un neu ddau ohonynt wedi dweud fod eu hiaith yn debyg iawn i’r Gymraeg. Does dim ffordd – yn yr un o’r ddwy iaith – o ddweud fod ‘pia’ ni rywbeth, neu ein bod yn ei berchnogi. “Mae gen i ffrind”, neu “Mae ffrind gen i” – mae’n golygu fod y ffrind yn dewis bod efo ni. Nid yw’r Manpuchi hyd yn oed yn perchnogi ei enw. Yn lle dweud

Fy enw i yw ……………………………………..,

dywedant,

Maent yn fy ngalw i yn ……………………………….

Maent hefyd, yn ddadlennol iawn, yn dweud

Y lle yma ydw i,

neu ‘Y lle yma ydyn ni’.Pawb sy’n dewis bod yma, dyna ydi’r bobl. Mae hynny yn wir am Gymru, y syniad o ymberthyn, ac uniaethu efo lle.

At y gair ‘llenyddiaeth’. Mae llenyddiaeth yn golygu mwy nag un person. Ewch drwy’r ‘aeth’ i gyd – gwleidyddiaeth, amaethyddiaeth, barddoniaeth, cerddoriaeth, newyddiaduraeth, meddygaeth, maent oll yn cyfeirio at berthynas unigolion efo pobl eraill, neu efo tir.

Fedr llenor/ bardd / artist ddim bodoli ar ei ben ei hun. Rhaid iddynt wrth wrandawyr, darllenwyr, gwylwyr, dilynwyr. Ac mae hon yn berthynas ddwy ffordd. Maent yn ateb galw, yn cyflenwi. e.e.mae meddyg yn dibynnu ar ei gymuned, a’i gynefin am ei fywoliaeth.

Reit o’r cychwyn un, mae yr iaith Gymraeg wedi bod yn creu a dweud storiau, ac mae hwn, credwch neu beidio, yn draddodiad di-dor. O Strathclyde yn yr Hen Ogledd

(neu Ystrad Clyd), a Coel Hen (Old King Cole) i lawr i Gaint, yr oedd yr iaith Frythoneg yn eu cydio ynghyd. Yr un gwraidd (dwfr) sydd yn Dwyfor ac yn Dover (Dyfnaint). Dyna pa mor llydan ydi’r iaith Gymraeg.

Mae traddodiad Lloegr a Ffrainc yn un go hen, ond dydi o ddim yn un di-dor. Ond mae sgwennu cerddi yn rhan o fod yn Gymro Cymraeg.

Mae hyn yn arbennig o wir am Ddyffryn Nantlle, fedrwn ni ddim tynnu’r iaith Gymraeg ohono. Llenorion Cymraeg yw’r rhan fwyaf llethol ohonynt.

Nid y llenorion biau’r geiriau, hyd yn oed eu geiriau hwy eu hunain (yn enwedig os

ydynt yn canu amdanom ni. Rydyn ni i gyd yn gallu perchnogi’r geiriau.

Os ydi’r peips wedi torri, rydyn ni’n ffonio Kevin Plymar, achos ei fod o’n gallu trwsio peips, ac rydym yn talu iddo am ei waith. Yn yr un modd efo beirdd – mae nhw yn trin teimladau y mae pawb ohonom yn eu cael. Ond mae nhw yn gallu prosesu y teimladau hyn. Gallant eu rhoi ar ffurf sy’n peri inni allu uniaethu â nhw. Gallant roi llais i’r hyn a deimlwn ac a brofwn. Job llenor yw gwasanaethu y bobl sy’n siarad neu yn canu yr iaith.

Teimladau yw ei ddeunydd crai.

Mae eraill yn gweld teimladau fel lliwiau a ffurfiau. Fel waliwr wŷr yn union i lle mae carreg arbennig yn mynd, dyna sut mae bardd yn gwybod yn burion i lle mae gair arbennig yn mynd.

Mae Dyffryn Nantlle yn leoliad i rai o storiau cyntaf yr iaith – y Mabinogi, a’r Bedwaredd Gainc yn arbennig. Mae Lleu hefyd yn rhan o enw’r dyffryn. Dyffryn Nantlleu ydi o, ac nac ANGHOFIWN hyn! Nid Nant Llai na Nant y Llef ydyw ond Nant Lleu.

Daw’r chwedlau hyn o amser pan nad oedd Cymru yn wlad, ond yn wlad o wledydd neu ardaloedd – Llŷn, Môn, Arfon, Powys, Dyfed. Rydym yn sôn am gyfnod cyn-Gristnogol, cyn bod eglwysi yng Nghymru. Yn y cyfnod hwn, roeddent yn addoli Y Fam Ddaear. Dyna pam mae merched y chwedlau mor bwerus. Nid tad Lleu sy’n gwrthod rhoi

enw iddo, ond Y Fam.

Tynnodd ein sylw ni wedyn at goeden arbennig ger Pont y Ffridd yn Nantlle, ger y llyn. Mae coeden yno, sydd wedi marw, ond nid yw wedi syrthio. Ar hon y disgynnodd Lleu ar ffurf eryr. Roedd Lleu, hanner dyn, hanner duw, rhwng dau le. Aeth pethau yn ofnadwy o rong, ac fe’i trowyd yn eryr. O Domen y Mur, daeth i Faladeulyn, rhwng dau lyn, a chanodd Gwydion dair englyn i gael Lleu i ddod i lawr. Be arall wnaech chi yn Nyffryn Nantlle ond canu englynion?! Mae’r chwedlau hyn i’w cael yn Llyfr Coch Hergest sydd yn Llyfrgell Bodleian, Rhydychen. Gallwn edrych arno nawr, a deall y Gymraeg – rhywbeth na all Sais cyffredin ei wneud, gan fod yr iaith Saesneg wedi newid cymaint ers Hen Saesneg.

Yr ail bwynt gan Karen oedd dweud mai job o waith oedd Barddoniaeth. Mae yna ddisgrifiad swydd o waith bardd. Rhoddir cadair yn yr eisteddfod i’r bardd buddugol am fod y bardd yn arfer eistedd ar ochr dde i’r brenin. Roedd yn ymddwyn fel cof/ cydwybod a weithiau cyfraith i’r arweinydd. Byddai’n cynghori y brenin. Yna, byddai’r bardd yn sylwi ar blentyn ifanc tua 8-9 oed, bachgen deallus, a oedd yn gallu siarad neu lefaru yn hyglyw. Byddai yn cymryd y plentyn dan ei adain ac yn dysgu prentisiaeth iddo. Yng ngogledd Cymru, byddai’n cymryd 9 mlynedd i fod yn bencerdd, saith mlynedd o hyfforddiant oedd yna yn y De. Mae’n rhaid i fardd wrth lonydd a thawelwch i gyfansoddi ei gerddi, ond mae’n swydd sydd yn gwbl ddibynnol fod pobl eraill yno i wrando a chlywed. Roedd gan fardd dri cof.

  1. Dysgu rheolau yr iaith Gymraeg.

  2. Hanes Cymru, cofio pwy oedd wedi brwydro yn y fan a’r fan, a hanes ardal.

  3. Pwy oedd yn perthyn i bwy, fel nad oedd yn pechu rhywun am ei fod yn perthyn

    i’w noddwr!

Felly yn yr un person hwn, roedd gennych gronicl, swydd bardd oedd cadw’r peth yn fyw, a byddai pawb wedyn yn cyd-ganu. Roedd cynghanedd yn ei gwneud yn haws i gofio’r geiriau. Os anghofiech, yna roeddech yn gallu dyfalu beth oedd y geiriau coll. Ni chafodd rheolau’r gynghanedd ei sgwennu lawr am ganrifoedd.

Mae Gwyn Thomas yn dal mai 7 plot sydd – dial, cariad, llofruddiaeth etc. ac mae’r 7 i’w weld yn Y Mabinogi.

Mae Dyffryn Nantlle reit ynghanol hyn i gyd. Doedd neb ers talwm yn meddwl am eu hunain yn israddol. E.e. Yn Oes y Seintiau, doedden nhw ddim yn ystyried pobl y pen yma yn salach pobl na neb arall yn Ewrop. Roedd Dafydd ap Gwilym o flaen ei oes ar lefel Ewropeaidd. Ddaru Owain Glyndwr erioed ystyried fod Cymru yn wlad ddi-nod ar ymyloedd Ewrop. Roedd ganddo urddas a hyder. Rhywbeth diweddar ydi’r teimlad hwn o

israddoldeb. (A pheidiwn a dweud ‘sorry’ am gychwyn sgwrs yn Gymraeg. Dywedwch

‘Don’t worry’, a siarad Saesneg wedyn, achos rydyn ni yn gallu siarad – a defnyddio – dwy iaith).

Rydyn ni wedi creu yn Gymraeg ers cyn cof. Mae y traddodiad barddol Cymraeg yn draddodiad di-dor ers 1,500 o flynyddoedd. Does dim eisiau cyfeirio atynt fel ‘yr hen ieithoedd bach Celtaidd, biti drostyn nhw’. Rydyn ni ymysg y pethau hynaf sy’n bod.

Fel y jôc (gan Gwyn Alf.?)am y Sais sy’n brolio ei hil, ac yn dweud

We’ve been here since Norman times”

ac ateb y Cymro yw,

And how are you settling in?”

Mae yna ffwdan rwan am fewnfudwyr yn dod i Brydain ac yn gorfod dysgu iaith gynhenid Prydain. I fod yn fanwl gywir, y Gymraeg oedd honno! Dyna pam y galwodd Iolo Morgannwg yr orsedd yn Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd ei syniad o o Brydain yn wahanol iawn i un pobl Llundain.

Mae math o eiriau a math o lenyddiaeth yn ffitio i dirwedd arbennig. Yn nhapestri Cymru, sonnir am ‘fwynder Maldwyn’. Mae o i’w weld yn y tirwedd, llawer o fryniau crwn. Ond os fydde Karen yn dewis gair i ddisgrifio Dyffryn Nantlle, ‘garw’ fyddai’n dod i’r meddwl. Daw hyn o’r cefndir diweddar o ddiwydiant. Fe ddefnyddiai ‘sosialaidd’ a chymunedol hefyd. Caiff hyn ei adlewyrchu yng ngwaith y llenorion.

Mae Waldo yn canu i’r frawdoliaeth yn fwy ‘neis’ nag a wna Gwilym R Jones e,e.

Yn ‘Mab y Ffoedigaeth’. Neu meddyliwch chi am Kate Roberts a chymeriad Wini Ffini Hadog. Yng ngenau’r ferch hon y mae yr awdures yn rhoi y gwirioneddau mawr, y person mwya shabi, mwya tlawd, amharchus, cwbl ddi-fraint. A’i hawydd mwyaf hi? Eisiau mynd o’ma. Doedd hi ddim am fyw yn yr un gymdogaeth a Mrs Hughes y Gweinidog. Dydi Wini ddim yn credu mewn tact. Mae angen morthwyl -morthwyl lwmp – weithiau i ddweud y gwir. Gallwch dynnu Kate Roberts o Rosgadfan, ond allwch chi ddim tynnu Rhosgadfan o Kate Roberts.

Dydi llenorion Dyffryn Nantlle ddim jest yn sgwennu am Ddyffryn Nantlle. Ond mae nhw angen sgwennwyr, darllenwyr, gwrandawyr a pherfformwyr i’r geiriau. Mae’n rhaid i’r dweud ddod yn fyw ar dudalen. Sylwer ar feirniadaeth Derec Llwyd Morgan ar y stori fer yn Steddfod Dinbych 2013. Mae eisiau ymgyfarwyddo â gweithiau rhai megis Kate Roberts.

Mae eisiau gofyn, Be sy’n gwneud i bobl dician? Be sy’n codi eu gwrychyn? Beth a bair iddynt chwerthin? Fedr llenor ddim bod yn un person yn unig.

Amser paned, gofynnodd Karen inni ddyfalu o lle daeth y llun ar ei mwg, a’r ateb cywir oedd Bryniau Casia. Yn Casia, y mae ganddynt eu brenin eu hunain, dydyn nhw ddim yn ystyried eu hunain yn ‘India’, gwlad gwneud ydi honno. Mae eu brenin yn byw mewn tŷ, dipyn bach mwy na gweddill y bobl. Mae ganddynt res o gerrig, a’r rhai ar i fyny yn cynrychioli’r gwryw, a’r rhai fflat yn cynrychioli’r fenyw. Os nad ydi hyn yn eich calonogi, meddyliwch am gromlech – mae angen tri dyn i ddal un ddynas! Ond y gwir amdani yw fod y cerrig hyn yn Casia yn 4,000 o flynyddoedd oed.

Yng Nghymru, y mae gennym ni ein cerrig. Mae y maen llog yng Nghylch yr Eisteddfod yn wynebu y Dwyrain, ac mae drws i fynd i mewn. Mae 12 maen, ac maent yn cynrychioli cloc haul. Dyna darddiad, yn wyneb haul, llygad goleuni. Dylai cysgod yr haul ar y cerrig ddweud faint o’r gloch yw hi. Ond be sy’n ddifyr yw fod y cerrig yng Nghor y Cewri, yn un pen o’r byd, a meini Casia yn y pen arall. Mae yna rhyw fath o gadwyn yn ein clymu. Mae’n perthyn i jig-so mawr y byd. Rhoddai gysur i Karen fod gwareddiad ym mhen draw’r byd yn cydio ynom. Yn lle bod y diwylliant Eingl Americanaidd yn trio ein gwneud ni i gyd run fath, mae yna ddiwylliant amgen sy’n ein huno.

Rhaid cofio mai gwr o Sir Drefaldwyn, Thomas Jones, a aeth allan ym 1842 fel cenhadwr a gofnododd iaith Casia, a’i sgwennu i lawr am y tro cyntaf. A dyna pam mai’r

wyddor Rufeinig yw ei hwyddor hwy. Cyn Thomas Jones, nid oedd yn bodoli ar bapur. Fel ‘tad yr iaith’ y caiff ei adnabod. Ac yntau John Roberts o Gorris Uchaf, fo yw ‘ tad llenyddiaeth’ yn Casia. Fo ddechreuodd sgwennu y storiau. Gair pobl Casia am y cof yw ‘kynmaw’, ac ystyr hynny yw ‘wedi ei gerfio mewn carreg.’ Rhaid cofio gyda llaw mai ar don Hen Wlad fy Nhadau y cenir anthem Casia, ynghyd â Llydaw a Chernyw. Tarddiad y nod cyfrin yw cysgod yr haul ar y dair carreg wrth fynedfa y cylch. Ac os mai Iolo Morgannwg a’i dyfeisiodd, roedd yn seiliedig ar bethau ac egwyddorion gwirioneddol hen. Mae’r nod cyfrin yn cyfeirio at Gyfiawnder, Heddwch a’r Gwirionedd.

Felly mae’r meini hyn yn bwysig, maent yn procio’r cof. Maent yn ein hatgoffa nad atodiad mohonom i wledydd Prydain. Mae nhw yn ein hatgoffa beth ddigwyddodd yn y fan a’r fan, a’n bod ni ddim ar ein pennau ein hunain. Mae’r tomenni llechi yn dechrau mynd, ond rhaid inni godi meini newydd, a rhannu ein ‘byd-olwg’ efo eraill drwy ein hiaith ni.

Nid un nofel neu un gerdd ydi llenyddiaeth, ond yr holl ddisgwrs sy’n digwydd. Hyd yn oed heddiw, drwy lenyddiaeth, rydym yn cael gwybod beth yw barn y genedl ar ryfel, barn ar lle y mae y dwthwn hwn. Mae llenyddiaeth yn gallu bod yn ddrych i ni’n hunain, neu yn ffenest i edrych drwyddi. Mewn llenyddiaeth y mae agor y ffenest i weld psyche yr iaith.

Rydyn ni’n genedl sydd wedi adrodd storiau erioed. Rydyn ni yn anghofio y stori fwyaf, inni fod yma ers cyn cof, a’n bod yn parhau. Y gwirionedd mawr, ‘mai’r lle yma ydyn ni’.

Gwnawn benderfyniad bwriadol i gofio, gan ddyffeio rhywun sy’n ein gorfodi ni i anghofio pwy ydym ni. Mae llawer o sôn am TAN20 y dyddiau hyn, a dyletswydd y Llywodraeth. Mae’n werth cofio na fedr yr un llywodraeth ladd iaith. Mae cenhedloedd bach wedi cadw ei hiaith yn wyneb bygythiadau mawr. Yn yr un modd, fedr yr un llywodraeth achub iaith, heblaw ein bod ni – y bobl – eisiau ei chadw.

Gallwn ei gwneud yn iaith answyddogol, ddim yn iaith brys, ond yn iaith arafwch.

Ein penderfyniad ni ydyw os ydym am barhau i adrodd y stori.

Advertisements
Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized a'i dagio yn , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s