Sesiwn nesaf – Medi 18 – Karen Owen ar lenyddiaeth y Dyffryn
Dafydd Gwyn, Medi 11, 2013
Chwip o ddarlith oedd hon. Deuthum oddi yno yn methu credu mai ym Mhenygroes mae’r orsaf drên hynaf – yn y byd! Dyma’r tro cyntaf i mi ddeall yn iawn y cysylltiad rhwng y chwareli a’r caethweision siwgr yn India’r Gorllewin. Yma, yn Nyffryn Nantlle, y daeth traddodiad stêm y byd i ben. O Lerpwl y deuai’r pres i ariannu mentrau yn y dyffryn, doedd dim cyfalaf yn y dyffryn ei hun (rhywbeth oedden ni i gyd yn ei wybod!).
Ym 1969 y caeodd Chwarel Dinorwig, a’u cytundeb olaf oedd gwneud llechen ar gyfer y Tywysog Charles i gael ei arwisgo yn Dywysog Cymru. Caeodd Chwareli Dorothea a’r Oakley hefyd. Prynwyd Chwarel y Penrhyn gan MacAlpine a nododd fod y fan yn ‘industrial dinosour’, ac aethant ati i’w moderneiddio.
Yr hyn a wnai chwareli Dyffryn Nantlle yn wahanol i’r gweddill oedd nad oeddent dan berchnogaeth un landlord mawr, a nifer o chwareli bychan a gaed, nid un chwarel fawr. Golygai hyn fod mwy o bŵer gan y chwarelwyr yn y dyffryn hwn. Roedd ganddynt eu traddodiadau eu hunain hefyd (a’u ffyrdd eu hunain o gambyhafio!) Pan mae criwiau o bobl ifanc yn disgwyl am y bws i fynd lawr i G’narfon am beint a ffeit, maent yn parhau traddodiad sy’n dyddio’n ôl i’r G18.
Yn Nyffryn Ogwen a Llanberis, gwelwn fel yr oedd pobl fawr yn taflu arian at broblemau i’w datrys.Ym 1866, cafodd Douglas Pennant (Bethesda) ei benodi i Dy’r Arglwyddi fel Arglwydd Penrhyn. Chafodd Asheton Smith (Faenol) mo’r fath deitl, ac aeth ati i godi plas y Faenol fel petai i ddweud, “Dwi inna yma hefyd!”Ond chafodd o mo’i wneud yn Lord Vaynol.
Roedd y deinamics yn Nyffryn Nantlle yn wahanol. Ym 1874 yr ail agorodd gwaith Drws y Coed. Byddai Asheton Smith yn cyflwyno arbenigwyr o Gernyw a Sir y Fflint, roeddent hwy yn gwybod sut i ffrwydro a chodi mwyn o’r gwaelodion. ‘Cornies’ oedd yr enw roddwyd arnynt. Digwyddodd hyn cyn diwedd y G18, cyn i Chwarel y Penrhyn agor, ac yr oedd Bois y Cilgwyn yn gwybod sut i drin ffrwydron. Roedd yna lot o fynd a dod a phobl yn crwydro o un ardal i ardal arall.
Roedd angen brêns i fod yn chwarelwr. Roedd rhaid i greigiwr ddeall y graig, roedd hi hefyd yn grefft i lwytho wagen. Roedd rhaid gwybod y gwahaniaeth rhwng mân hollti a bras hollti, sut a lle i guro’r lechen. Roedd o’n waith caled, ac roedd angen sgiliau periannwyr.
Yn un o’r lluniau cyntaf a gawsom, gwelwyd ‘chwimsis’ ceffyl, sef ‘whimsey engine’.
Ar y cychwyn, roeddent yn agor y graig gyda chyn a morthwyl. Yna, symudwyd ymlaen i gael peiriannau i wneud y gwaith. John Hughes o Benygroes a wnaeth y peiriannau hyn yn Glyn Rhonwy, cai ei ‘nabod fel John y Gof. Nid ‘iliiterate blacksmith’ mohono o gwbl, roedd yn gallu sgrifennu, ond gwr uniaith Gymraeg ydoedd. John Edwards fyddai’n llunio yr olwynion i’r trolis.
Yn Nyffryn Nantlle, doedd dim arian i brynu sgiliau. Roedd dibyniaeth lwyr ar bobl leol i ddatblygu’r sgiliau. Felly John y Gof oedd y cyntaf i roi bariau wrought iron ar lein tren yn Chwarel Cloddfa Coed. Roedd y dyffryn hwn yn ‘forcing house’ i ddysgu sgiliau.
Deuai crefydd yn sgil y diwydiannu. Ym 1770, Michael Owen gyflwynodd yr achos Annibynol yn y dyffryn. Roedd o’n un o’r rhai oedd yn datblygu y gwaith copr yn Nrws y Coed.
Gwelsom lun o Ddyffryn Nantlle a’r Wyddfa yn gefndir, golygfa o 1816. Yn y tu blaen, mae melin wynt, (wrth leoliad Gogerddan Stores). John y Gof a’i gosododd. Roedd un arall uwchben y Cilgwyn ac wrth lyn y Fron. Felly roeddent yn defnyddio egni gwynt mor gynnar â hyn.
Ond dŵr oedd prif broblem chwareli Dyffryn Nantlle, er mai dŵr oedd y brif ffynhonell egni hefyd. Injan stêm oedd y peth cyntaf i ddod wedyn. Ym 1819, roedd injan bwmpio o Benbedw. Roeddent yn defnyddio injan o’r fath yn y West Indies, efo’r caethweision, a hwn oedd yn trwsio’r sugar canes. Pobl alluog oedd yn gwneud y peiriannau hyn. Rhyfedd meddwl mai o Ysgol Evan Richardson yn Gnarfon, ysgol yn yr atig, y daeth mwy nag un sgolor gafodd eu derbyn gan y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain.
Yma, yn Nyffryn Nantlle, y daeth traddodiad stem y byd i ben. Gellir gweld injan stem yn Hawai, yn Mecsico, yn Japan, ond Chwarel Dorothea oedd y lle olaf yn y byd i injan draws Gernyweg gael ei gosod – injan heb foileri.
Yng nghanol y G19, cafwyd cymysgedd o stem a dŵr. Gellir gweld mewn paentiad, mai injan stem sy’n codi’r blociau ar yr inclein, trowyd Llyn Nantlle yn chwarel yn yr 80au.
Mae Michael Wynne Williams, rheolwr olaf Dorothea yn ddisgynnydd i John Jones Talysarn, awdur y cofiant enwog.
Bu streic yn Dorothea yn yr 1850au pan oedd y rheolwr yn ceisio dod â pheiriannau newydd i mewn. Fel y gwnaeth Emelius Alexander Young ym Methesda. John Lloyd Jones oedd mab John Jones Talysarn. Aeth un mab yn ŵr busnes, un yn weinidog, a’r llall yn ‘shady businessman’! Fo oedd pia Chwarel Penyrorsedd, a chwarel Bryneglwys ger Abergele.
Os am gael blas o fywyd chwarelwr yn y G19, darllenwch Hunangofiant Chwarelwr
-
Robert Williams, Caer Engan. 1896 – 1901, yn Cymru Goch (Archifdy Caernarfon)
Roedd ‘white collar crime’ mor hawdd yng Nghymru. Roedd cymaint o gwmniau dan y Board of Trade. Mi fydde John Lloyd Jones yn prynu chwarel, derbyn lot o bres gan bobl, deud sori wrthynt, fod y fenter wedi methu. Cai y receivers i mewn, yna byddai’n gwerthu’r chwarel yn ôl iddo fo’i hun!! Efo Penyrorsedd a’r Fron, fe wnaeth hyn 3 gwaith!.
Ỳn Nyffryn Nantlle, yn niffyg landlord, roedd gan y chwarelwr cyffredin fwy o gyfle i reoli chwarel a mynd yn ddyn busnes. Rhaid cofio – cyn mynd yn rhy feirinadol – fod ethics busnes Fictorianaidd yn wahanol i heddiw, ond dim ond i ryw raddau!
Ỳr hunangofiant gorau yn Saesneg o’r G19 yw gan y cloddiwr aur Awstralaidd,
Robert Roberts, (y Sgolor Mawr) Confessions of a Wandering Scholar. Mab i was fferm yn Ninbych oedd o, ac yn alchoholig. Aeth i Goleg y Bala i fod yn weinidog, ac yna mynd i’r chwarel.
Gwelsom luniau o geffylau yn cael ei defnyddio yn y chwarel tan yn eitha diweddar.
Teddy boys fyddai’n gofalu am y rhain yn aml, tan y 60au. Y Grand Finale yn Dorothea oedd ceisio denu ymwelwyr i’r chwarel, a’r ceffyl (Holly neu Duke) oedd yr atyniad mawr.
Gwelsom lun o hen injan stêm yn Chwarel y Penrhyn (sydd bellach yn Amgueddfa Llanberis). Mae fel un fyddai mewn ffatri gotwm. Technoleg arall ar ddiwedd y G19 oedd blondin i godi rwbel. Technoleg o’r Alban oedd hyn. Cwmni Hendersons o Aberdeen (sydd nawr yn gwenud oil rigs). Deuai motors trydan o Gaeredin. Roedd Dyffryn Nantlle yn deall sut i dderbyn technoleg arall. Roedd digon o Gymry Cymraeg ymysg y manijars. Dynion dosbarth canol oedd y manijars, nid pobl fawr.
Cludiant
Ers cyfnod y Rhufeiniaid, mae mulod neu geffylau wedi bod yn cludo nwyddau i Foryd neu Gaernarfon. Ddiwedd y G18, roedd 200 o droliau y dydd o’r chwarel i’r mor. Roedden nhw eisiau gwneud rheilffordd, ond roedd ffraeo. Roedd gan bobl Lerpwl fwy o arian a sgiliau.
Y Nantlle Railway oedd y rheilffordd gyhoeddus gyntaf yng Ngogledd Cymru (efo ceffylau). Robert Stephenson (ewythr y peiriannydd enwog) a’i gosododd. Arian Lerpwl oedd yn talu amdani – arian caethwasiaeth. Yr arian o’r West Indies a greodd chwareli Dyffryn Nantlle a Dyffryn Ogwen. Awn ar ôl Samuel Holland, Stiniog.
Roedd digon o allu a sgiliau yn Nyffryn Nantlle, ond nid y cyfalaf. Doedd dim system fancio. Doedd yna ddim pobl fonedd yn chwilio am gael agor chwareli yma. Lle oedd yr arian yn y dyffryn? (hy os oedd o yno o gwbl)
Pan oedden nhw’n datblygu Durham e.e.roedd y Ddinas yn Llundain yn cyfarwyddo – this is where your money goes.
Ond yn Gogledd Cymru, roedd pob dimau yn dod o Lerpwl. Yno roedd y cyfalaf, a hwnnw yn dod o’r West Indies.
Mae llun o ganol y G19, sydd yn dangos cei Caernarfon, trol (o Glyn Rhonwy) a wagen lein. Roedd y rheilffordd yn mynd yn syth i’r porthladd. Ym 1866, dyma’r London and North Western Railway Company yn sugno trafnidiaeth oddi wrth y Nantlle Railway i fynd i Lerpwl neu Birmingham. Llai o drafnidiaeth yn hwylio wedi hynny, a llawer gormod o ddibynniaeth ar Euston. Roedd yna bolisi iaith o beidio cael pobl uniaith Gymraeg yn gweithio iddynt.
Ffaith ddifyr yw mai Siop Griffiths, Penygroes yw’r orsaf lein hynaf YN Y BYD. Roedd yn dafarn ym 1829. Roedd sôn fod Samuel Holland (o Stiniog/ Lerpwl) yn cael paned y de yn y dafarn. Dechruodd siarad efo Henry Archer o Ddulyn (mab trysorlys Cyngor Dulyn) ac roedd am gymryd lês. Dywedodd Holland, “You’d be better off making a railway from Ffestiniog to Porthmadog” a dyna wnaeth. Ond mae Siop Griffiths yn hŷn na Liverpool Road ym Manceinion (sy’n honni bod yr hynaf yn y byd, lle mae’r Science and Industry Musuem), mae’n hyn na Lime Street yn Lerpwl, ac yn Mount Clair yn Baltimore!
Mae CADW wedi rhestru Siop Griffiths.
Mae’n ddifyr cymharu lluniau John Thomas (Lerpwl) sy’n portreadu yr hen Gymru fodern, a lluniau Geoff Charles, sy’n dangos yr hen Gymru yn dirywio.
Yn hen barics Pen Bryn, mae olion Canol Oesol yn y seiliau.Mae ffermdy o’r G18 yn wynebu y Barics. Mae modd cymharu Cyfrifiad i lle oedd pobl yn byw.e,e yn 1871, roedd yr air space i bob aelod o’r barics yn llai na’r hyn oedd gan yr Iddewon yn Auchwitz.
Boom towns oedd y trefi hyn ar y pryd.
Yn yr 1860au a 1870au, roedd ffosydd, a phobl yn y stryd wedi meddwi. Byddai pobl yn mynd i capel fore Sul yn gorfod cerdded dros eu cyrff. Roedd fel yr hen Wild West!
Ym 1868, roedd etholiad, a mab Arglwydd y Penrhyn yn sefyll dros y Toris yng Nghaernarfon. Yn ol y papurau, cafodd ‘respectable hearing’ ym Methesda, Bangor a Chaernarfon. Ond cael ei beltio a gafodd gan chwarelwyr Dyffryn Nantlle! Roedd y Liberal, Darbyshire wedi gofyn iddynt ddangos parch, ond i’r diawl ag o oedd agwedd pobl Dyffryn Nantlle. Traddodiad annibynol iawn a berthyn i’r dyffryn, dydy o ddim yn lle parchus.
Mae yma elfen gref o gambyhafiaeth ac annibyniaeth.
Gwelsom luniau o fythnynod bychain yn Drws y Coed (y lle diwydiannol cyntaf yn y dyffryn). Tai i fwynwyr o Amlwch oedd y rhain yn yr 1830s. Roedd traddodiad o fyw yn annibynnol, ar y tir comin, uwch ben Penygroes. Mindset pobl Rhostryfan yn annibynnol. Yn Kew, ceir manylion cau’r tiroedd comin. Yr arglwyddi wnaeth hyn a dwyn tir y dosbarth gweithiol. Ond roedd y dosbarth gweithiol yn gwneud dipyn go lew o hyn eu hunain. Roedd pobl Llundain a Newborough yn caniatau hyn i raddau helaeth. Gwelent fod pobl yn gweithio yn galed, yn dwyn y tir, yn creu gerddi. Roedd o fudd iddyn nhw fod hyn yn digwydd. Roedd y tir yn cynnal y math o bobl yr oeddent eu hangen i fod yn chwarelwyr.
Doedd dim cyfraith yn erbyn y math yma o beth.
Darllenwch am Griffith Davies, y mathemategydd enwog o’r Groeslon, “Guto Dafydd”.
Byddai’n sgwennu at y gweision sifil yn Islington, “I have sprung from the stock of these people”.
Gwelsom lun o Ty’n Llwyn, rhwng Rhosgadfan a’r Waunfawr, Eto, mae CADW efo gorchymyn cadwraeth ar hwn.
Treddafydd yn Penygroes, rhes o dai diwydiannol, y cyntaf yn y dyffryn. Dafydd Griffith gododd y rhain, a rhai tebyg yn Neiniolen. Aeth yn alltud wedi troi’n fethdalwr.
Ger gwaelod Ffordd y Sir ym Mhenygroes, gwelir enghraifft o dai America, steil Wisconsin. Mae tai Dakota yn Llanberis.
Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, capeli yn cael eu sefydlu, Ym 1821 y cafwyd capel cyntaf John Jones. Y capel ar dde, a’r siop ar y chwith (Duw a Mamon!) Fanny oedd yn cadw’r siop, gan nad oedd incwm i bregethwr bryd hynny. Wedi i’r chwarel lyncu y siop a’r chwarel, codwyd yr ail un – Gogerddan Stores. Department store yn Nhalysarn! Roedd cyfoeth yno gan mlynedd yn ôl. Boom towns oeddent fel Colorado neu Saudi Arabia heddiw. Rhwng Hyfrydle a Station, roedd 30 o siopau tan y 30au. Rydym yn dal i fyw efo canlyniadau y Wall Street Crash.
Y Byd Mawr.
Roeddem yn allforio llechi a gwybodaeth. Mae Gilbert Williams yn arbenigwr ar Rosgadfan, ond yn gwybod llai am Rostryfan. Ond gwell gan Dafydd Gwyn gael byd olwg.
Dangosodd lun o New Amsterdam (neu Efrog Newydd yn ddiweddarach). Teils coch sydd ar y tai, ond llechi sydd ar yr eglwys. Os oedd llechi o’r Cilgwyn yn oes y Rhufeiniaid, rhai yn Bath yn y Canol Oesoedd, ydi o’n afresymol meddwl mai llechi Cymraeg sydd yn y llun o New Amsterdam yn 1674? Heb farchnad eang, fyddai Dyffryn Nantlle ddim wedi datblygu.
Aeth y dechnoleg o Ddyffryn Nantlle i Ffrainc. Beth oedd y cysylltiad rhwng chwarel yn Ffrainc a Dyffryn Nantlle? Roedd pobl o Baris yn dod i Ddyffryn Nantlle i weld be oedden ni yn ei wneud yn ein chwareli. Roedd Cymru ar y blaen efo technoleg chwarelyddol.